Bore da,
Yn dilyn ein hymgynghoriad yr haf llynedd ar sut y byddem yn gweithredu'r gofynion newydd o dan Ran 5 o Ddeddf y Cyfryngau sy'n ymwneud â newyddion lleol a gwybodaeth am orsafoedd radio masnachol analog lleol, roeddwn eisiau rhoi gwybod i chi fod Ofcom heddiw wedi cyhoeddi ei ddatganiad yn nodi ein penderfyniadau terfynol.
Ar ôl ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, mae ein penderfyniadau yn cynnwys y canlynol:
- Rhaid i bob gorsaf radio fasnachol analog lleol, ar wahân i'r rhai sydd â throsiant isel iawn, ddarparu newyddion lleol o leiaf bob awr yn ystod yr wythnos ac amseroedd brig ar benwythnosau;
- Rhaid casglu rhywfaint o newyddion lleol yn lleol, a fydd yn gwneud yn ofynnol i newyddiadurwyr fod yn bresennol yn gorfforol yn yr ardaloedd perthnasol. Nid ydym yn bwriadu nodi faint o newyddion lleol y mae'n rhaid ei gasglu'n lleol neu pa mor aml y dylid ei ddarlledu;
- Ni fydd yn ofynnol i orsafoedd sydd â throsiant isel iawn ddarlledu newyddion lleol ar benwythnosau na chynnwys newyddion sydd wedi'i gasglu'n lleol.
- Rhaid i bob gorsaf ddarlledu gwybodaeth leol yn rheolaidd drwy gydol dyddiau'r wythnos yn ystod y dydd (06.00 i 19.00) ac ar oriau brig ar y penwythnosau (07.00 i 12.00).
Rydym hefyd wedi addasu ein hamserlen weithredu arfaethedig. Bydd gan orsafoedd nad oeddent wedi gorfod darparu newyddion lleol o’r blaen ddwy flynedd i gydymffurfio. Bydd gan bob trwyddedai arall gyfnod gweithredu o flwyddyn.
Gellir dod o hyd i’r datganiad llawn, gan gynnwys rhagor o fanylion am ein penderfyniadau, yma. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar ein gweithrediad o Ddeddf y Cyfryngau hyd yma, gan gynnwys trosolwg o'n gwaith arfaethedig ar gyfer gweddill 2026 a allai fod o ddiddordeb.
Gobeithio y bydd hyn yn ddefnyddiol – rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os yw'n ddefnyddiol i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach.
Cofion cynnes,
Bethan